![]() |
![]() |
![]() |
|
|
![]() |
![]() |
Mae’r lleoliad yn rhan o stadiwm Clwb Peldroed Porthmadog nid nepell o ffordd osgoi y dref. Mae’r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau cyhoeddus fel cyngherddau, gigs yn ogystal a priodasau, dathliadau teuluol, cyfarfodydd clybiau ac yn y blaen Gall yr ystafell eistedd 80 o bobol yn gyfforddus a hynny o gwmpas byrddau a chadeiriau o safon. Os na fydd angen byrddau a chadeiriau mae lle i 100 o bobol.
Gellir teithio mewn car/tacsi o’r dref i’r Traeth mewn dim ond 3 munud ac fe ellir cerdded yno o ganol y dref mewn 10 munud, a hynny ar ffordd lle mae ychydig iawn o drafnidiaeth. Mae mynediad hwylus i’r ystafell gweithgareddau ar gyfer yr anabl ac hefyd mae yno doiled arbennig ar eu cyfer Os bydd angen mae bar hwylus ar gael Os bydd angen darparu bwyd mae cegin 5* modern ar gael o fewn y ganolfan
Mae golygfeydd godidog o Eryri yn eich amgylchynnu sydd yn cyfrannu at yr awyrgylch braf, hamddenol ac anffurfiol. Ac, wrth gwrs, mae’r golygfeydd hyn yn rhai arbennig os bydd angen tynnu lluniau ar gyfer ddigwyddiadau ffurfiol fel priodasau. Chaiff neb ond y chwi ddefnyddio’r cyfleusterau. Ni fydd hawl gan unrhyw drydydd parti amharu ar y digwyddiad. Defnyddir y lleoliad yn eang gan amrywiaeth o gyrff gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat. Cynhelir nifer sylweddol o ddigwyddiadau adloniadol yn y lleoliad. Contact Nicola Smith |
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
![]() |
|
[M Ty Clwb Dummy] [Ystafell Gynadledda] [Ystafell Swyddogaeth] [Cyfeiriadau] [M Conolfan Mynediad] [Skills Centre] [Access] [Contact Us] |